Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 5 Tachwedd 2018
Amser:
15.21 -
17.13
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
http://senedd.tv/cy/5038tv/
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Tim Howard, Llywodraeth Cymru Andrew Slade, Llywodraeth Cymru Jason Thomas, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton (Archwilydd Cyffredinol Cymru) Mike Usher |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AC.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol; Jason Thomas, Cyfarwyddwr, Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, a Tim Howard, Dirprwy Gyfarwyddwr Eiddo, Llywodraeth Cymru fel rhan o'u hymchwiliad i berthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood.
3.2 Cytunodd Andrew Slade i wneud y canlynol:
· Anfon nodyn yn esbonio cyfansoddiad y Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau o £42 miliwn
· Rhoi ffigurau manwl holl refeniw Stiwdio Pinewood Cymru am y flwyddyn ariannol ddiwethaf pan fo'r sefyllfa olaf yn hysbys
· Darparu amserlen ar gyfer adnewyddu arfaethedig y ffermdy rhestredig Gradd II ynghyd â'r holl gostau hyd yn hyn ar gynnal yr adeilad a chostau adnewyddu arfaethedig
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.
5.2 Cytunodd yr Aelodau i gyhoeddi eu canfyddiadau mewn adroddiad.
6.1 Trafododd yr Aelodau un rhan o'r adroddiad unwaith eto ac, ar ōl ystyriaeth, bydd y Clercod yn newid geiriad a chylchredeg fersiwn ddiwygiedig trwy e-bost i'w gytuno.